Pwy ydym ni
Sefydlwyd y llwyfan hwn gan Medrwn Môn, asiantaeth annibynnol sy'n darparu cymorth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i'w galluogi i weithio'n fwy effeithiol.
Nod Medrwn Môn yw cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu a chynnal partneriaethau a chyfleoedd rhwydweithio cryf. Mae Cysylltu Ynys Môn yn hyrwyddo grwpiau cymunedol, mudiadau, a chyfleoedd i chi gymryd rhan yn eich cymuned. Cyfle gwych i ddod i wybod mwy am yr hyn sydd i'w gynnig i chi.
Ein gwerthoedd a'n gweledigaeth ar gyfer y llwyfan hwn
Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill a thrwy ymateb yn gadarnhaol ac yn ddychmygus, ein nod yw cryfhau a hysbysebu cymunedau ledled Ynys Môn.