Beth yw Gwirfoddolwr Nwyddau Cartref?
Oes gennych chi gariad at nwyddau cartref, bric-a-brac a phethau casgladwy? Oes gennych chi lygad am yr hyn a fyddai’n apelio ac yn gwerthu? Allwch chi helpu i hybu ein gwerthiant trwy greu arddangosfeydd a chasgliadau diddorol?
Beth sydd ynghlwm?
- Trefnu, glanhau a phrisio nwyddau a roddwyd i ni
- Ymchwilio i eitemau anarferol neu brin
- Creu arddangosfeydd nwyddau cartref/casgladwy apelgar sy’n dal y llygad
- Helpu a chynghori cwsmeriaid
Beth gewch chi o hyn?
- Cyfle i ddangos eich brwdfrydedd dros nwyddau cartref/casgladwy
- Cyfle i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
- Cyfle i arddangos eich creadigrwydd i gynyddu ein gwerthiant nwyddau cartref
- Y posibilrwydd o ymestyn i feysydd eraill o fewn y siop
Buddion Ychwanegol
- Cewch eich gwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf un am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
- Cyflwyniad personol i'ch siop
- Y cyfle i weithio yn rhan o dîm bach cydlynol gyda phobl o'r un anian â chi i:
- ddod â syniadau newydd i’r siop
- cwrdd â phobl newydd
- ymgeisio am swyddi gwag mewnol
- dysgu sgiliau Newydd neu loywi hen rai a gwella eich CV
- ennill hyder a hunan-barch
- Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
- Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr yn unol â'n polisi treuliau
- 20% oddi ar nwyddau ail-law yn y siop rydych chi'n gweithio ynddi
- Diodydd a bisgedi am ddim
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
- Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
- Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau Sing with Us
Pwy fyddai’n addas?
Rhywun sy’n hoff o lyfrau; gallech fod yn ddarllenwr brwd neu'n un sy’n pori mewn siopau llyfrau neu lyfrgelloedd yn aml; sydd â llygad am greu arddangosfeydd diddorol.
Cynwysoldeb:
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
What’s a Homeware Hero Volunteer?
Do you have a love of homeware, bric-a-brac and collectibles? And an eye for what would appeal and sell? Can you help boost our sales by creating interesting displays and collections?
What’s involved?
- Sorting, cleaning and pricing donated items
- Researching rare finds and unusual items
- Attractively displaying the homeware/collectibles on the shop floor
- Rotating the stock to keep displays interesting
What’s in it for you?
- A chance to demonstrate your enthusiasm for the homeware/collectibles
- Scope to work on your own initiative as well as being part of a team
- An opportunity to showcase your creativity to increase our homeware sales
- The possibility to branch out into other shop areas
Additional Benefits
- We aim to be as flexible as possible so you can volunteer around your other commitments
- You’ll feel our appreciation from Day One for being a part of our organisation and making a difference in people’s lives
- A personalised induction to your shop
- The opportunity to work within a small knit team with like-minded people to bring new ideas to the shop, meet new people, apply for internal vacancies, learn new skills or refresh old ones and enhance your CV, gain confidence and self esteem
- Reasonable expenses will be reimbursed in line with Tenovus Cancer Care policy
- Paid lunch for working beyond 4 hours in line with our expenses policy
- 20% off preloved goods in the shop you work in
- Free beverages and biscuits
- Access to training opportunities
- A supportive and friendly environment where you can have fun, enjoy yourself and feel good knowing you are helping others
- In addition, the volunteering team can direct you to other groups you may like to get involved with, including our Friends of Tenovus Cancer Care fundraising groups and our Sing with Us choirs
Who would it suit?
A lover of homeware/collectibles! You could be a collector yourself, willing to share your knowledge with others and create eye-catching displays.
Inclusivity:
Whether you’re a volunteer, supporter, or staff member, we want everyone to feel welcome at Tenovus Cancer Care. We are committed to greater diversity across our people to make sure we have a breadth of experience, skills and perspective that reflects the communities we serve.
We are working to ensure that Tenovus Cancer Care is a fair and equitable place to volunteer. We strive to ensure everyone is treated fairly, regardless of age, disability, sex, gender reassignment, pregnancy, maternity, race (which includes colour, nationality and ethnic or national origins), sexual orientation, religion, or belief, or because someone is married or in a civil partnership